Y Cynghrair Arabaidd

Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية‎ al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية‎ Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria ac Iemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y cynghrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.

Y Cynghrair Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhanbarthol, uno gwleidyddol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Mawrth 1945 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLibanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of the Arab League Edit this on Wikidata
SylfaenyddYr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria, Iemen Edit this on Wikidata
Isgwmni/auArab Monetary Fund, Arab Air Carriers Organization, Arab League Educational, Cultural and Scientific Organization, Arab Parliament Edit this on Wikidata
PencadlysHeadquarters of the Arab League Edit this on Wikidata
Enw brodorolالجامعة العربية‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leagueofarabstates.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau'r Cynghrair Arabaidd

Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.

Aelodau

Aelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):

 Yr Aifft22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Irac22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Gwlad Iorddonen22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Libanus22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Sawdi Arabia22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Syria22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
 Iemen5 Mai, 1945 (Sefydlydd)
 Libia28 Mawrth, 1953
 Swdan19 Ionawr, 1956
 Moroco1 Hydref, 1958
 Tiwnisia1 Hydref, 1958
 Coweit20 Gorffennaf, 1961
 Algeria16 Awst, 1962
 Emiradau Arabaidd Unedig12 Mehefin, 1971
 Bahrein11 Medi, 1971
 Qatar11 Medi, 1971
 Oman29 Medi, 1971
Mawritania26 Tachwedd, 1973
 Somalia14 Chwefror, 1974
 PalesteinaGwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976)
 Jibwti9 Ebrill, 1977
 Comoros20 Tachwedd, 1993

Yn Ionawr 2003, ymaelododd Eritrea fel sylwedydd.

Ysgrifenyddion Cyffredinol

 Yr AifftAbdul Rahman Azzam1945 hyd 1952
 Yr AifftAbdul Khalek Hassouna1952 hyd 1972
 Yr AifftMahmoud Riad1972 hyd 1979
 TiwnisiaChedli Klibi1979 hyd 1990
 LibanusAssad al-Assad1990 hyd 1991
 Yr AifftAhmad Esmat Abd al Meguid1991 hyd 2001
 Yr AifftAmr Moussa2001 hyd heddiw

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.