Brech y mwnci

Clefyd heintus a achosir gan firws brech y mwnci yw brech y mwnci (a enwyd yn mpox gan Sefydliad Iechyd y Byd[1]) sydd yn effeithio ar rai anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol.[2] Mae symptomau yn dechrau gyda thwymyn, cur pen, poen yn y cyhyrau, chwyddo'r chwarennau lymff, a theimlo wedi blino,[3] ac yna ceir brech sydd yn ffurfio pothelli ac yn ymgrawennu.[3] Ymddangosir y symptomau cyntaf rhyw ddeng niwrnod wedi cysylltiad â'r firws,[3] a pharheir y symptomau am ddwy i bedair wythnos, gan amlaf.[3]

Lledaenir brech y mwnci trwy sawl modd, gan gynnwys cyffwrdd cig y gwyllt, brathiad neu grafiad gan anifail, hylifau'r corff, gwrthrychau heintiedig, neu gysylltiad agos â rhywun sydd wedi ei heintio.[4] Credir i'r firws darddu o gnofilod yn Affrica.[4] Gellir cadarnhau diagnosis drwy brofi anaf ar y croen am DNA y firws.[5] Gall yr afiechyd ymddangos yn debyg i frech yr ieir.[6]

Gallai brechlyn y frech wen atal haint brech y mwnci gydag effeithioldeb o 85%.[5][7] Yn 2019, derbyniwyd defnydd y brechlyn Jynneos yn erbyn brech y mwnci ar gyfer oedolion yn Unol Daleithiau America.[8] Nid oes yr un briod feddyginiaeth ar gyfer brech y mwnci feddygol;[9] gall y cyffuriau cidofovir a brincidofovir fod yn effeithiol i raddau.[6][9] Yn Affrica, gall y gyfradd marwolaeth fod mor uchel â 10% heb driniaeth.[3]

Ymddengys y clefyd fel arfer yng Nghanolbarth a Gorllewin Affrica.[10] Darganfyddwyd y firws yn gyntaf ymhlith mwncïod mewn labordai ym 1958.[11] Canfuwyd yr achosion cyntaf ymhlith bodau dynol ym 1970 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.[11] Yn 2003 cafwyd 71 o achosion yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i lygod codog a fewnforiwyd o Ghana i siopau anifeiliaid.[5] Yn 2022 cafwyd yr achosion cyntaf o drosglwyddo brech y mwnci rhwng bodau dynol y tu hwnt i Affrica, a hynny yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau