Esperanto

Yr iaith artiffisial fwyaf llwyddiannus a dylanwadol yw Esperanto. Mae ganddi fwy o siaradwyr nag unrhyw iaith artiffisial arall. Daw'r enw o'r ffugenw "Dr Esperanto", a ddefnyddid gan ddyfeisiwr yr iaith L. L. Zamenhof. Ystyr yr enw yn yr iaith Esperanto yw "yr un sy'n gobeithio".

Baner Esperanto

Iddew o Białystok a symudodd i fyw yn Warsaw oedd Zamenhof. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf ar yr iaith, "Unua Libro", yn 1887 ar ôl gweithio arni am ryw ddeng mlynedd. Nod Zamenhof oedd cynorthwyo pobloedd yr holl fyd i ddeall ei gilydd yn well. Nid oedd yn bwriadu i Esperanto ddisodli unrhyw iaith arall ond yn hytrach i fod yn ail iaith ryngwladol a niwtral

Mae cefnogwyr Esperanto yn gweld dwy brif fantais i'r iaith. Maent yn honni ei bod yn hawdd iawn i'w dysgu, ac mae hyn yn amlwg. Nid yw'n perthyn i unrhyw grŵp cenedlaethol neu ethnig yn fwy nag i unrhyw grŵp arall. Mae pob iaith ryngwladol arall wedi lledaenu oddi wrth un grŵp ethnig (megis y Saeson a'r Americanwyr yn achos Saesneg, neu'r Ffrancod yn achos Ffrangeg).

Geiriau

Saluton  Sut mae
Bonan matenon  Bore da
Bonan vesperon  Noswaith dda
Bonan nokton  Nos da
Ĝis revido  Hwyl fawr
Kiel vi fartas?  Sut dych chi?
Dankon  Diolch
Nedankinde  Croeso (llyth. dim haeddu diolch)
Bonvolu (+ berfenw), Mi petas  Os gwelwch yn dda
Vivu Kimrio!  Cymru am byth!
Kimrio por ĉiam  Cymru am byth (llyth.)
La Drako Ruĝa  Y Ddraig Goch
 

Adeiladu geiriau

Mae Esperanto yn iaith ddodiadol iawn sy'n defnyddio blaenddodiadau ac olddodiaidau wrth adeiladu geiriau er mwyn lleihau'r gwreiddiau gwahanol. Oherwydd ei natur dodiadol mae hi'n iaith reolaidd iawn. Er enghraifft, mae'r gwraidd "san-", sy'n golygu "iach", yn cynhyrchu amrywiaeth eang o eiriau gydag arddodiadau gwahanol; mae'r tabl canlynol yn cynnwys pigion ohonynt:

gair Esperantocyfieithiad Cymraegsylw
sanaiach"-a" yw'r terfyniad ansoddeiriol
sanoiechyd"-o" yw'r terfyniad enwol
sanibod yn iach"-i" yw'r terfyniad berfol (annherfynol)
malsanasâlmae blaenddodiad "mal-" yn cynhyrchu'r ystyr cyferbyniol
malsanosalwch
malsanibod yn sâl
sanuloperson iachmae olddodiad "-ul-" yn cyfeirio at berson â rhyw ddisgrifiad
malsanuloperson sâl
malsanulejoysbytymae olddodiad "-ej-" yn cyfeirio at le; mae'n golygu yn llythrennol "lle pobl di-iach" felly

Gellir uno mwy nag un gwraidd hefyd. Er enghraifft, mae'r gwraidd naz- yn golygu "trwyn", ac mae'r gwraidd tru- yn golygu "twll", felly mae naztruo yn golygu "ffroen".

Llyfrau Cymraeg ar Esperanto

  • G. Griffiths, Agoriad i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (Lerpwl, c.1910) ; ail argraffiad wedi ei ddiwygio gan y Canon W.H. Harris, Agoriad neu Allwedd i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (1956).
  • J.C. Wells, Geiriadur Esperanto / Kimra Vortaro (Llundain, 1985).

Yr wyddor Esperanto

llythyren    ynganiada  ab  bc  ts ("z" yn Almaeneg/Eidaleg)ĉ  "ch" yn Saesnegd  de  ef  ffg  gĝ  jh  hĥ  chi  ij  i byr/cytsain (fel yn "ia" / "mai")ĵ  "j" yn Ffrangegk  cl  lm  mn  no  op  pr  rs  sŝ  si ("sh" yn Saesneg)t  tu  wŭ  w cytsain (fel yn "naw", "tew")v  fz  "z" yn Saesneg

Dolenni allanol