Hassan Rouhani
Hassan Rouhani (Persieg: حسن روحانی ) (ganwyd 12 Tachwedd, 1948) yw 7fed arlywydd Iran. Mae hefyd yn gleric Mwslemaidd[1] (gyda statws Mujtahid Shia),[2] cyfreithiwr,[3]:410 academic a chyn-ddiplomat.
Hassan Rouhani حسن روحانی | |
---|---|
Hassan Rouhani | |
Llywydd Iran | |
Yn ei swydd 3 Awst 2013 – 5 Awst 2021 | |
Vice President | Eshaq Jahangiri |
Uwch Arweinydd | Ali Khamenei |
Rhagflaenwyd gan | Mahmoud Ahmadinejad |
Dilynwyd gan | Ebrahim Raisi |
Manylion personol | |
Ganwyd | Sorkheh, Iran | 12 Tachwedd 1948
Priod | Sahebeh Rouhan (1969–presennol) |
Plant | 5 |
Cartref | Plasdy Sa'dabad (Official) Jamaran (Private) |
Alma mater | Qom Hawza Prifysgol Tehran Prifysgol Caledonian Glasgow |
Llofnod | |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Cafodd ei eni yn Sorkheh, Iran. Cymerodd drosodd ar ôl Mahmoud Ahmadinejad fel seithfed arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2013. Mae'n rhugl mewn Persieg, Saesneg ac Arabeg.[4]
Bu'n aelod o "Gynulliad yr Arbenigwyr" ers 1999,[5] yn aelod o Gyngor Dirniadaeth Cyfleustra (Expediency Discernment Council) ers 1991,[6] yn aelod o Uwch Gyngor Dros Ddiopgelwch Cenedlaethol ers 1989,[7] a Phennaeth y Ganolfan dros Ymchwil ers 1992.[8]
Ar 7 Mai 2013, cofrestrodd Rouhani ar gyfer etholiad Arlywydd Iran (a gynhaliwyd 14 Mehefin 2013).[9] Dywedodd y byddai'n llunio "Siarter Hawliau Dinesig" pe bai'n cael ei ethol, yn adfer economi'r wlad, ac yn gwell perthynas ei wlad gyda gwledydd y Gorllewin.[10][11] Caiff ei ystyried yn wleidyddol fel person canol y ffordd.[12] Fe'i etholwyd ar y 15fed o Fehefin pan drechodd maer Tehran sef Mohammad Bagher Ghalibaf a phedwar ymgeisydd arall.[12][13][14] Dechreuodd ar ei waith ar 3 Awst 2013.[15]
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Hassan Rouhani (ganwyd Hassan Fereydoun) ar 12 Tachwedd 1948[16] yn Sorkheh, ger Semnan, a hynny o fewn teulu crefyddol.[17] Cadwodd ei dad Haj Asadollah Fereydoun siop sbeis,[18] yn Sorkheh[19] ac mae ei fam bellach yn byw yn Semnan efo ei merched a'i mab-yng-nghyfraith.[16][20] Credir fod Asadollah Fereydoun wedi bod wrthi'n wleidyddol yn erbyn Mohammad Reza Shah Pahlavi, sef Shah (neu frenin) Iran, ac iddo gael ei arestio y tro cyntaf ym 1962, a thros 20 o weithiau wedyn, cyn Chwyldro Iran yn 1979.[21]
Cychwynodd Rouhani ei astudiaethau crefyddol ym 1960, yn gyntaf yn y Semnan Seminary[3]:55 ac yna yn Qom Seminary ym 1961.[3]:76 Bu yn nosbarthiadau ysgolheigion enwog yn y cyfnod gan gynnwys Mohammad Mohaghegh Damad, Morteza Haeri Yazdi, Mohammad-Reza Golpaygani, Soltani, Mohammad Fazel Lankarani, a Mohammad Shahabadi.[3]:81 Yn ogystal, astudiodd gyrsiau modern a chafodd ei dderbyn i Brifysgol Tehran ym 1969, lle cafodd radd B.A. yn y Gyfraith ym 1972.[3]:309–312[8] Ym 1973, ymunodd â'r fyddin yn ninas Nishapur.[22]
Parhaodd gyda'i astudiaethau ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow gan raddio ym 1995 gyda gradd Meistr mewn Athroniaeth a'r Gyfraith; teitl ei draethawd oedd "The Islamic legislative power with reference to the Iranian experience". Yna cwbwlhaodd Ph.D. yn y Gyfraith ym 1999 am waith ar "The Flexibility of Shariah (Islamic Law) with reference to the Iranian experience".[23][24]
Polisiau
Economeg
Roedd polisiau Rouhani pan gafodd ei wneud yn Arlywydd yn cynnwys:
- rhannu cyfoeth y wlad yn fwy cyfartal
- gostwng chwyddiant a diweithdra[25]
- lleihau mewnforio a datblygu cynnyrch mewnol y wlad.[26]
Hawliau dynol
Mae Rouhani'n gredwr cryf mewn hawliau merched, fel y gwelwyd o araith a wnaeth yn syth wedi iddo gael ei wneud yn Arlywydd y wlad, pan ddywedodd: "Mae'n rhaid cael hawliau cyfartal i ferched. 'Does dim gwahaniaeth rhwng dyn a dynes o ran eu creadigaeth, o ran eu hawch am wybodaeth, o ran eu dyneiddiwch nac o ran eu gwybodaeth, eu gallu na'u gwasanaeth i Dduw a dynoliaeth."[27]
Ym Medi 2013 gorchymynodd ryddhau 11 carcharor gwleidyddol gan gynnwys y cyfreithiwr Nasrin Sotoudeh a'r gwleidydd Mohsen Aminzadeh.[28]
Y cyfryngau
Parthed sensoriaeth y we, cyhoeddodd: "Diflanodd y dyddiau o godi muriau o amgylch Iran! Heddiw nid oes waliau'n bod." Beirniadodd gorff Darlledu Gweriniaeth Iran am ddangos manion dibwys o "newyddion" tramor, ac ar yr un pryd yn anwybyddu pethau o bwys mawr.[29] Ymddangosodd ei fod yn awyddus i wneud y rhyngrwyd yn fwy hygyrch i'r Iraniad cyffredin, ac i gyfryngau cymdeithasol a rhyddid cymdeithasol. Dywedodd: "Dymunaf weld ein pobl, yn eu bywydau preifat, i fod yn gwbwl rhydd, ac yn medru derbyn gwybodaeth o fewn y byd mawr a thrafodaethau rhydd a meddyliau rhydd." [30]
Polisi tramor
Parthed Unol Daleithiau'r America, datganodd ei awydd i ymweld ac i agor trafodaethau - a hynny wedi 32 mlynedd o ddiffyg trafod gan y ddwy ochr. Ond pan ofynnodd Obama am gyfarfod un-i-un fe'i gwrthodwyd. Ar 27 Medi 2013, ddiwrnod ar ôl i ddau weinidog tramor y ddwy wlad gyfarfod cynhaliodd Rouhani ac Obama sgwrs ffôn sy'n cael ei gyfri'n garreg filltir bwysig rhwng y ddwy wlad.[31][32]
- Israel
Disgrifiodd Rouhani Israel fel gwlad sydd wedi "cymeryd drosodd tirioedd yn anghyfreithlon" a bod "yr anghyfiawnder hwn i bobl y tiroedd hyn wedi dod ag ansefydlogrwydd i'r ardal, yn bennaf oherwydd polisiau milwrol Israel."
Pan ofynnwyd iddo a fu'r fath beth a'r holocost, atebodd: "Gwleidydd ydw i, nid hanesydd." [33]
Llyfrau a phapurau a gyhoeddwyd ganddo
Fel Athro Prifysgol yng Nghanolfan Ymchwil Iran mae wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau mewn Persieg, Arabeg a Saesneg, gan gynnwys:[8]
- mewn Persieg
- Islamic Revolution: Roots and Challenges (انقلاب اسلامی؛ ریشهها و چالشها), Mehefin 1997, ISBN 9649102507
- Fundaments of Political Thoughts of Imam Khomeini (مبانی تفکر سیاسی امام خمینی), Gorffennaf 1999
- Memoirs of Dr. Hassan Rouhani; Vol. 1: The Islamic Revolution (خاطرات دکتر حسن روحانی؛ جلد اول: انقلاب اسلامی), Chwefror 2008, ISBN 9786005914801
- Introduction to Islamic Countries (آشنایی با کشورهای اسلامی), Tachwedd 2008
- Islamic Political Thought; Vol. 1: Conceptual Framework (اندیشههای سیاسی اسلام؛ جلد اول: مبانی نظری), Rhagfyr 2009, ISBN 9789649539409
- Islamic Political Thought; Vol. 2: Foreign Policy (اندیشههای سیاسی اسلام؛ جلد دوم: سیاست خارجی), Rhagfyr 2009, ISBN 9789649539416
- Islamic Political Thought; Vol. 3: Cultural and Social Issues (اندیشههای سیاسی اسلام؛ جلد سوم: مسائل فرهنگی و اجتماعی), Rhagfyr 2009, ISBN 9789649539423
- National Security and Economic System of Iran (امنیت ملی و نظام اقتصادی ایران), Awst 2010, ISBN 9786005247947
- National Security and Nuclear Diplomacy (امنیت ملی و دیپلماسی هستهای), Ionawr 2011, ISBN 9786002900074
- Role of Seminaries in Moral and Political Developments of Society (نقش حوزههای علمیه در تحولات اخلاقی و سیاسی جامعه), Tachwedd 2011
- An Introduction to the History of Shia' Imams (مقدمهای بر تاریخ امامان شیعه), Mawrth 2012, ISBN 9786005914948
- Age of Legal Capacity and Responsibility (سن اهلیت و مسئولیت قانونی), Hydref 2012, ISBN 9786002900135
- Memoirs of Dr. Hassan Rouhani; Vol. 2: Sacred Defense (خاطرات دکتر حسن روحانی؛ جلد دوم: دفاع مقدس), Ionawr 2013
- Narration of Foresight and Hope (روایت تدبیر و امید), Mawrth 2013
- National Security and Foreign Policy (امنیت ملی و سیاست خارجی), Mai 2013
- National Security and Environment (امنیت ملی و محیط زیست), Mai 2013
- mewn Saesneg
- The Islamic Legislative Power, Mai 1994
- The Flexibility of Shariah; Islamic Law, Ebrill 1996
- mewn Arabeg
- Comments on Fiqh (Islamic Jurisprudence); Lessons of the Late Muhaqqiq Damaad (تقريرات درس فقه مرحوم محقق داماد) (Chapter on Prayers [صلاة]), Tachwedd 2012
- Comments on Usul (Principles of Fiqh); Lessons of the Late Ayatollah Haeri (تقريرات درس أصول مرحوم حائري) (Chapter on Academic Principles [أصول علمية]), Mawrth 2013