Malala Yousafzai
Merch ysgol Bacistanaidd yw Malala Yousafzai (ganwyd 12 Gorffennaf 1997)[1], sy'n ymgyrchu dros addysg i ferched ac hawliau dynol a'r ieuengaf erioed i dderbyn Gwobr Heddwch Nobel.
Malala Yousafzai | |
---|---|
Ffugenw | Gul Makai |
Ganwyd | 12 Gorffennaf 1997 Mingora |
Man preswyl | Birmingham |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | blogiwr, amddiffynnwr hawliau dynol, bywgraffydd, ysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched |
Mudiad | Hawliau plant, hawliau menywod |
Tad | Ziauddin Yousafzai |
Mam | Toorpekai Yousafzai |
Priod | Asser Malik |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Sakharov, Gwobr Simone de Beauvoir, National Malala Peace Prize, Gwobr Anna Politkovskaya, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Four Freedoms Award – Freedom from Fear, Philadelphia Liberty Medal, International Children's Peace Prize, Index Award, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Seciwlarydd y Flwyddyn, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Dyngarwr y Flwyddyn, honorary Canadian citizenship, Urdd y Wên, Ellis Island Medal of Honor, Gwobr 100 Merch y BBC, Commander of the Order of Bravery, Gwobr Time 100, Memminger Freedom Prize 1525, Jane Addams Children's Book Award |
Gwefan | https://www.malala.org/ |
Yn 2009 ysgrifennodd flog i'r BBC gan ddisgrifio'i bywyd o dan reolaeth y Taleban yn Nyffryn Swat.[2] Ar 9 Hydref 2012 cafodd Malala ei saethu yn ei phen gan y Taleban.[3] Cafodd ei thrin mewn ysbyty yn Birmingham, Lloegr, ac erbyn mis Mawrth 2013 dychwelodd i ysgol gan fynychu Ysgol Uwchradd Edgbaston yn Birmingham.[4]
Anrhydeddau
Ar 12 Gorffennaf 2013, siaradodd Yousafzai ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig gan alw am fynediad rhwydd i bawb i'r byd addysg, ac ym Medi 2013 fe agorodd Llyfrgell newydd Birmingham yn swyddogol.[5] Hi yw'r ieuengaf erioed i ennill y Wobr Sakharov (2013), ac yn Hydref yr un flwyddyn fe'i hurddwyd gan Lywodraeth Canada fel 'Dinesydd Anrhydeddus'.[6] Yn Chwefror 2014 fe'i henwebwyd am Wobr y Plant yn Sweden.[7] Ar 15 Mai derbyniodd doethuriaeth anrhydeddus gan University of King's College, Halifax.[8]
Ymddengys nad yw'r fyddin yn malio dim am amddiffyn ysgolion nes eu bod wedi eu dymchwel a'u cau. Pe baent wedi gwneud eu gwaith yn iawn fyddai'r sefyllfa yma erioed wedi codi.
Dethlir "Diwrnod Malala" ar 10 Tachwedd gan y Cenhedloedd Unedig.[10][11] Cafodd ei henwebu am Wobr Heddwch Nobel 2014, ar y cyd gyda Kailash Satyarthi, ymgyrchydd arall dros hawliau plant, hefyd o Bacistan.[12]