Asid carbocsylig

Asid organig gyda'r grŵp carbocsyl a'r fformiwla gemegol: R-C(=O)OH, a fynegir fel arfer fel R-COOH neu R-CO2H [1] yw asid carbocsylig. Mae asidau carbocsylig yn asidau sy'n ffitio diffiniad Damcaniaeth Brønsted-Lowry; maent yn rhyddhau protonau. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw'n "carbocsyladau". Rhain yw'r asidau organig cryfaf o ganlyniad i sefydlogrwydd yr anion carbocsylad lle mae'r electronau (ac felly'r wefr negyddol) yn cael eu dadleoli rhwng y ddau atom ocsigen electronegyddol. Mae asidau carbocsylig mewn hydoddiant dyfrllyd felly'n sefydlu'r ecwilibriwm canlynol:

Asid carbocsylig
Enghraifft o'r canlynoldosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol Edit this on Wikidata
Mathcarbon oxoacid, organic acid, carbonyl compound Edit this on Wikidata
Rhan oATPase-coupled carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transport Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscarboxyl, carboacyl group Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Strwythur asid carbocsylic
Strwythur yr anion carbocsylad gyda'r electronau dadleoledig.

R-COOH + H2O ⇌ R-COO- + H3O+

Yr asidau carbocsylig symlaf yw'r asidau alcanoig, R-COOH, lle mae R yn cynrychioli hydrogen neu grŵp alcyl.

Enghreifftiai cyffredin

EnwRMrpKaEnghraifft

ffynhonnell naturiol

Monogarbocsylig
FformigH46.033.77Pigiad morgrug a danadl poethion
AsetigCH360.054.76Finegr
PropionigCH3CH274.084.88Caws a chwys
BwtyrigCH3CH2CH288.114.82Menyn, Llaeth, Chwŷd
Deugarbocsylig
Ocsalig90.031.25,4.14Suran y coed, Riwbob
Trigarbocsylig
Sitrig192.123.13,4.76,6.39Ffrwyth sitrws

Cyfeiriadau

Dolenni allanol